David Rees AC

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Y Swyddfa Ddeddfwriaeth

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA

18 Tachwedd 2015

 

Annwyl Gadeirydd,

Diolch am y cyfle i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn imi fynychu’r pwyllgor hwnnw ar 20 Ionawr 2016. Mae’r dystiolaeth yn amgaeedig.

Gofal Preswyl

Oherwydd ystod a chymhlethdod y gwahanol faterion, rwyf wedi grwpio’r sylwadau yn fy ymateb drwy ddefnyddio’r Model Ansawdd Bywyd oedd yn rhagflaenu fy Adolygiad ac mae’n cysylltu’n uniongyrchol i argymhelliad allweddol 7 Ymchwiliad y Pwyllgor i Ofal Preswyl.

Mae hyn yn darparu fframwaith seiliedig ar ganlyniadau er mwyn gallu creu lefel o sicrwydd a barnu effaith y gwaith sydd ar y gweill yn ei erbyn. Hwn hefyd fydd y fframwaith cyffredinol a ddefnyddiaf ar gyfer fy Adolygiad Dilynol. Er mwyn cadw’r ffocws yn siarp, rwyf wedi canolbwyntio ar y meysydd lle mae’r effaith i’w gweld fwyaf.

Fy ngwaith yn y dyfodol gyda gwasanaethau gofal rheoledig yng Nghymru

Wele’r pwynt isod ynghylch beth fydd fy mlaenoriaethau am y 12 mis nesaf. Bydd gennyf ddiddordeb mewn clywed barn y pwyllgor am eu rhaglen waith, ac yn cydnabod y bydd hyn bellach yn digwydd o dan y llywodraeth nesaf, er mwyn parhau i adeiladu ar y berthynas waith effeithiol sydd rhyngom fel cyrff craffu.

Canfyddiadau buan fy ymchwil i ddementia

Ar hyn o bryd rwyf wrthi’n adolygu canfyddiadau’r gwaith ymchwil hwn, gan ddisgwyl y caiff ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2016.

Fy mlaenoriaethau am y 12 mis nesaf

Ar hyn o bryd rwyf yn aros am ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus i’r cynnig i roi pwerau i Brif Weinidog Cymru i ymestyn cyfnod fy swydd. Ni wn eto pryd y caf wybod beth fydd canlyniad hyn nac ychwaith beth fydd bwriad y Prif Weinidog. Os penderfynir ymestyn cyfnod fy swydd, yna byddaf yn fuan wedyn yn cyhoeddi rhaglen waith fydd yn ategu’r ddwy flynedd olaf yn fy swydd fel Comisiynydd.

Er hynny, fy mwriad yw datblygu’r gwaith o wneud grymuso pobl hŷn a gwireddu eu hawliau'n rhywbeth real, o warchod a diogelu pobl sy’n agored i niwed neu mewn perygl o gael niwed a sicrhau y gall pobl hŷn gael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth sydd ei angen arnynt i’w helpu i heneiddio’n dda.

Byddaf yn parhau i adeiladu ar y partneriaethau da a greais dros y tair blynedd a hanner diwethaf, ond bwriadaf hefyd ddefnyddio fy mhwerau craffu ffurfiol lle tybiaf mai’r pwerau hynny yw’r ffordd orau o yrru newid.

Os bydd angen unrhyw beth arall arnoch cyn fy sesiwn dystiolaeth ym mis Ionawr, cofiwch gysylltu â fy swyddfa ar bob cyfrif.

Yn gywir,

 

 

 

 

Sarah Rochira

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru